Dr Rebecca Williams

Mae Dr Rebecca Williams yn Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol gyda dros 22 mlynedd o brofiad o weithio gydag oedolion a phlant ag anhwylderau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth, syndrom Asperger, anhwylderau iaith, anableddau dysgu, ADHD, yn ogystal ag oedi datblygiadol ac anableddau eraill. Mae’n gweithio ar y cyd â therapyddion iaith a lleferydd profiadol ac arbenigol a / neu therapyddion galwedigaethol i roi asesiad cynhwysfawr o anghenion eich plentyn.


Os hoffech gael asesiad ar eich cyfer chi neu’ch plentyn, yna cysylltwch â ni am ymgynghoriad ffôn 15 munud yn rhad ac am ddim heb rwymedigaeth i gael gwybod beth allai asesiad ei olygu ac i ddarganfod os ydym ni yn bobl iawn i’ch helpu.
Cysylltwch
Dr Rebecca Williams who performs the assessments

Gwasanaethau Yn ystod Cyfyngiadau Coronafirws

Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar-lein yn unig, gan ddefnyddio galwadau fideo wedi'u hamgryptio’n ddiogel. Rwy'n dal i allu cynnig asesiadau cychwynnol, ond ni allaf gynnig unrhyw brofion gwybyddol ar hyn o bryd. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n bosib ar hyn o bryd, cysylltwch â fi. 

Eich iechyd a'ch diogelwch yw fy mlaenoriaeth.

Asesiadau Awtistiaeth

Rwy'n cynnig asesiadau cynhwysfawr yn Saesneg neu Gymraeg i'ch helpu chi i ddeallt eich plentyn neu'ch hun yn well, diagnosis os yn addas, adroddiad manwl i chi ei rannu gydag asiantaethau perthnasol, ac argymhellion manwl ynghylch y ffordd orau i gefnogi'ch plentyn neu chi'ch hun.

Cysylltwch
Dr Rebecca Williams - Child Assessment

Rwyf bob amser yn hapus i sgwrsio trwy eich opsiynau ac esbonio'r broses i chi, felly cysylltwch â fi i ddarganfod mwy, heb rwymedigaeth.

Cysylltwch a Dr Rebecca Williams

Ymdrinnir â phob ymholiad yn gyfrinachol.
Welsh Contact Form for Dr Rebecca Williams
Privacy Policy
Copyright © 2024 Dr Rebecca Williams